Basket
×

Your basket

Join The FSA

© PA Images

Cylchlythyr FSA Cymru Awst 2020

Er ein bod yn ceisio bod mor gywir â phosibl wrth greu’r cylchlythyr hwn, cofiwch fod y sefyllfa’n newydd o’r naill ddydd i’r llall.

Y wybodaeth ddiweddaraf

Yn ystod y mis diwethaf, mae FSA Cymru wedi bod yn ymgynghori â phartneriaid drwy Ewrop gyfan i weld sut y mae feirws Covid 19 wedi effeithio ar eu gwledydd nhw, a pha gynnydd sydd wedi’i wneud yn yr ymdrech i gael cefnogwyr yn ôl i mewn i’r stadiymau. Rydyn ni wedi cael llawer o wybodaeth, ac mae’n braf gweld bod nifer o wledydd yn gweithio gyda’r cefnogwyr i ddod o hyd i atebion. Nid dyna’r sefyllfa bob tro. Yng Nghymru, rydyn ni’n ffodus y byddwn ni’n cael ein gwahodd i fod yn rhan o’r gwaith i geisio darganfod ffyrdd o sicrhau bod cefnogwyr yn gallu ailddechrau cefnogi eu timau lleol, ac wrth gwrs y timau cenedlaethol ar bob lefel. Rydym hefyd wedi bod cyfrannu at gynhadledd flynyddol Cefnogwyr Pêl-droed Ewrop, er mai ar Zoom oedd hynny. Roedd yn galonogol gweld dros 50 yn cymryd rhan o bob rhan o Ewrop, a hyd yn oed o’r UDA.

Er ein bod yn canolbwyntio’n bennaf ar bêl-droed rhyngwladol, rydyn ni’n gwybod bod ein haelodau’n dilyn clybiau yng Nghymru a Lloegr hefyd, ac oherwydd hynny rydyn ni wedi ceisio rhoi gwybodaeth ynghyd ar gyfer cefnogwyr, a hynny gyda chymorth Wayne Nash, yr FSA a Chefnogwyr Pêl-droed Ewrop.

Pêl-droed Rhyngwladol

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio ar y sail ei bod hi 99% yn sicr y bydd holl gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig – a bron yn sicr felly gemau mis Medi, o leiaf. Bydd hynny’n wir waeth beth fydd amgylchiadau’r gwledydd unigol – rheol ar gyfer UEFA gyfan fydd hon (rheol sy’n debygol iawn ond heb ei chadarnhau). Rydyn ni’n gwybod eisoes bod UEFA wedi rhwystro Gwlad yr Iâ a Denmarc rhag caniatáu cefnogwyr yn y stadiymau, a bod UEFA yn mynnu bod angen un rheol ar gyfer yr holl gemau i sicrhau bod y sefyllfa’n deg ac yn cyd-fynd â phrotocolau llym. Mae disgwyl i UEFA gyfarfod cyn hir i gadarnhau’r protocolau ar gyfer gemau mis Medi.

Fis Hydref, mae Lloegr yn gobeithio gadael rhywfaint o gefnogwyr i mewn i’r gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru. Nid yw’r union fanylion yn hysbys, ond mae’n debyg mai tua pumed rhan o’r dorf fydd hyn, heb unrhyw gefnogwyr oddi cartref. Ond gall hyn ddibynnu ar sefyllfa’r feirws ar y pryd, ac nid yw’n glir a yw UEFA yn gallu deddfu ar yr hyn sy’n digwydd mewn gemau cyfeillgar. Felly efallai mai’r cyngor sir lleol yn ardal Wembley fydd i benderfynu.
O ran gemau oddi cartref Cymru ym mis Hydref a mis Tachwedd, mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi Llysgenhadon y Cefnogwyr os yw’n ddiogel i bobl deithio, ac os bydd hawl i wneud hynny. Ond ein cyngor ni i gefnogwyr Cymru yw peidio â chynllunio i adael y Deyrnas Unedig. Mae pethau’n newid bob dydd, ond fel y gwelsom yn Sbaen, efallai y bydd hawl i deithio cyn inni glywed bod yn rhaid inni hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd. Dydyn ni ddim yn sicr chwaith pa mor ddilys fydd eich yswiriant teithio yn y misoedd nesaf. Felly os ydych chi’n bwriadu cymryd y risg, cofiwch wirio gyda’ch darparwr yswiriant teithio.

Byddai’n dda gennyn ni i gyd pe bai’r newyddion yn fwy calonogol, ond rydyn ni’n dymuno cyfleu’r ffeithiau ichi, a pheidio â rhoi gobaith di-sail ichi. Mae ein haelodau’n gwario miloedd o bunnau’n dilyn Cymru ac yn cynllunio’n drwyadl iawn fel arfer. Ond mae’r misoedd nesaf mor ansicr, mae’n golygu bod unrhyw fath o gynllunio’n anodd tu hwnt.

Dyma beth mae rhai gwledydd eraill wedi bod yn ei wneud ers dechrau mis Mehefin. Efallai na fydd yr un peth yn digwydd yma, ond mae’n enghraifft o’r hyn sydd wedi bod yn bosibl.

  • Yn yr Iseldiroedd, mae nifer cyfyngedig o wylwyr wedi gallu bod yn y dorf, yn dibynnu ar y cyfleusterau lleol. Rhaid cofio am reol 1.5 metr y llywodraeth bob amser. Yn achos Ajax, mae modd i 8,500 o bobl wylio gemau, yn hytrach na’r 54,990 arferol. Nid yw cefnogwyr oddi cartref yn cael bod yn bresennol, tan y bydd y niferoedd arferol yn cael gwylio drachefn.
  • Yr Almaen: Canllawiau’n unig sydd i glybiau. Dylai’r rhain helpu clybiau i greu eu trefniadau lleol eu hunain. Gall pethau fod yn wahanol o glwb i glwb. Bydd y DFL yn cynnal cyfarfod cyffredinol ddiwedd mis Gorffennaf/dechrau mis Awst. Byddan nhw’n penderfynu bryd hynny a fydd un rheol i bawb, e.e. a fyddan nhw’n caniatáu cefnogwyr oddi cartref ai peidio.
  • Yn gryno: er mwyn i gefnogwyr yn yr Almaen gael hawl i fynd i stadiymau, rhaid i nifer yr achosion newydd o’r haint fod yn llai na 35 achos newydd am bob 100,000 o drigolion yn yr ardal. Rhaid cadw pellter o 1.50 metr, ac olrhain achosion (yn fwyaf tebygol drwy docynnau personol). Ni fydd uchafswm nifer; mae’r cyfan yn dibynnu ar y sefyllfa mewn clybiau unigol (mynedfeydd, y ffyrdd i mewn i’r stadiwm ac ati). Mae modelau yn dangos chwarae gyda 50% yn y seddi a 12.5% yn y mannau sefyll. Yn y pen draw, yr awdurdodau iechyd a’r llywodraethau lleol fydd i benderfynu. Mae hyn yn debyg i’r hyn a allai ddigwydd yn y Deyrnas Unedig, ond mae ymgynnull ar raddfa fawr wedi’i wahardd ar hyn o bryd.
  • Yn Ffrainc maen nhw’n chwarae gerbron 5,000 o bobl ond heb gadw pellter cymdeithasol go iawn. Roedd 5,000 yn yr un eisteddle. Roedd yr eisteddleoedd eraill yn dal ar gau. Y rhesymeg yw nad yw’r problemau hylendid yn berthnasol mewn stadiwm agored, ond yn hytrach ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth i’r heddlu a stiwardiaid chwilio pobl. Felly, maen nhw’n gweithio gydag uchafswm sefydlog o 5,000, yn hytrach na chanran o faint stadiwm.
  • Pan ofynnwyd sut maen nhw’n dewis pwy sy’n cael mynychu gemau’n Ffrainc, y cyntaf i’r felin yw hi. Ni fydd Ultras a grwpiau eraill o gefnogwyr yn mynd i gemau oherwydd y cyfyngiadau, ac mae nifer o gefnogwyr yn dal i ofni mynd mewn criwiau mawr, felly nid yw hyn yn broblem yn Ffrainc. Rwy’n credu y gallai hyn fod yn broblem yn y Deyrnas Unedig.
  • Yn Nenmarc, fe ddechreuon nhw â dim ond 500 yn mynd i gemau, ond ar ôl treialon llwyddiannus, maen nhw wedi cynyddu’r nifer i 40% o’r stadiwm yn Aarhus.

Pêl-droed domestig Cymru

Yn amlwg, gyda’r gwahanol lefelau, bydd meini prawf gwahanol, ond byddan nhw i gyd wedi’u seilio ar gadw pellter cymdeithasol a chyngor meddygol Llywodraeth Cymru. Ond mae’r sesiynau hyfforddi wedi dechrau’n barod. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi

cyhoeddi canllawiau am sut y bydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, ac wedi creu llawer o adnoddau i helpu clybiau ac unigolion yng nghyfnod cyntaf dychwelyd i hyfforddi.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru i ddatblygu dull cam wrth gam o ddychwelyd i chwarae pêl-droed yng Nghymru. I gael y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 gan Lywodraeth Cymru, ewch i: https://llyw.cymru/coronafeirws

Y cam nesaf fydd ailddechrau chwarae gemau a chyflwyno’r protocol ar gyfer hynny, a ddylai gynnwys canllawiau am sut y bydd cefnogwyr yn cael mynd i mewn i feysydd. Yn amlwg mae llai o gefnogwyr mewn gemau yng Nghymru fel rheol, yn enwedig y tu allan i uwch gynghrair JD Cymru, ond bydd yn rhaid i bob cynghrair ar ba bynnag lefel ddilyn yr argymhellion ar gyfer Covid-19. Mae hyn am gael effaith fawr ar y tymor nesaf, yn enwedig yn ariannol, ond mae angen i bawb gydweithio er mwyn inni oresgyn y cyfnod anodd hwn. Cadwch olwg ar wefan y Gymdeithas Bêl-droed i gael rhagor o ddiweddariadau.

Mae cyngor Llywodraeth Cymru, a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 24 Gorffennaf, yn cynnwys y canlynol ynghylch gwylio gemau.

Ar hyn o bryd, dylid cyfyngu cefnogwyr a gwylwyr eraill i bobl y byddai angen iddyn nhw fod yn bresennol yn unig, e.e. rhieni neu warcheidwaid plant, pan fydd rhesymau iechyd neu amddiffyn plant yn golygu bod angen iddyn nhw fod yno. Dylai pawb sy’n gwylio gadw pellter cymdeithasol a chorfforol oddi wrth ei gilydd, a chadw’n glir o’r ardal chwarae wrth fynd i ddigwyddiadau, gan gynnwys wrth gyrraedd a gadael y lleoliad, wrth ddefnyddio unrhyw gyfleusterau, ac wrth wylio gemau.

Bydd unrhyw un sydd yn ardal y chwarae, a hynny’n agosach nag y bydd y rheolau cadw pellter yn ei ganiatáu, yn cyfrif tuag at gyfanswm nifer y bobl sydd i’w hystyried yn rhan o’r gweithgarwch awyr agored, a 30 o bobl yw’r uchafswm yn hynny o beth.

Cynghreiriau Lloegr

Mae’r Uwch Gynghrair a’r EFL yn edrych ar gael torfeydd mewn meysydd ym mis Hydref o bosibl – gan anelu at gychwyn y tymor ar 12 Medi. Dyna’r sefyllfa orau sy’n bosibl, mae’n siŵr, ac mae canllawiau drafft wedi’u creu i bob clwb, a’r rheini i’w gweld fan hyn.

Efallai na chaiff y drafft hwn fyth ei droi’n fersiwn terfynol, oherwydd bod statws y feirws yn newid o hyd. Ond ar y funud, bydd mynd i gemau’n brofiad gwahanol iawn i’r arfer, ac nid oes dwywaith na fydd rhai pobl am ddychwelyd o dan yr amodau hyn. Rydyn ni’n deall hynny’n llwyr, ond hefyd rhaid inni barchu dymuniadau aelodau sy’n dymuno dychwelyd pan fydd y canllawiau wedi’u cyflwyno.

Nid rhywbeth i ymgyrchu yn ei erbyn yw hyn, ond yn hytrach, cyfaddawd yw er mwyn cael rhywfaint o gefnogwyr, o leiaf, yn ôl mewn stadiymau. Rydyn ni am weld stadiymau llawn, fel y mae’r Gymdeithas Bêl-droed a phawb arall hefyd. Yn ariannol, mae’n drychineb, ac yn eironig mae cyflwyno’r cyfyngiadau hyn yn ychwanegu at y costau. Ond fel arall byddai’n rhaid chwarae pob gêm y tu ôl i ddrysau caeedig. Dim ond dau ddewis sydd gennyn ni: dim cefnogwyr o gwbl, neu niferoedd is gan ddilyn y canllawiau. Rhaid i hyn fod er mwyn diogelwch pawb, ac mae’n gyfrifoldeb ar y cyd ar bawb ohonon ni.

Dyma rai enghreifftiau o’r canllawiau ar ôl sgwrsio â chyfarwyddwr gweithrediadau clwb Caerdydd, ond nid yw’r rhain wedi cael eu cadarnhau.

Bydd angen i bobl gyrraedd y stadiwm yn gynnar ac mae’n bosibl na fydd hawl i gael mynediad o fewn 30 munud i’r chwiban gyntaf. Bydd hyn yn rhoi amser i dracio ac olrhain ac efallai i fesur tymheredd pobl yn y dyfodol.

Bydd system tracio ac olrhain wedi’i sefydlu, felly os bydd brigiad o achosion, yna bydd cofnodion cywir ar gael o bawb oedd yn bresennol. Mae hyn yn dibynnu ar onestrwydd cefnogwyr ac yn galw am beidio â throsglwyddo tocynnau. Bydd y Gymdeithas Bêl-droed a’r clybiau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i orfodi hyn, ond mae’n rhaid i’r CEFNOGWYR EU HUNAIN helpu.

Efallai y bydd yn rhaid gwisgo masgiau wyneb tan y byddwch chi yn eich sedd ar gyfer y gêm.

Efallai y bydd digwyddiadau i dreialu’r system, gyda niferoedd is. Bydd canlyniadau hynny’n dylanwadu ar bethau’n y dyfodol.

Ni fydd modd i bawb fod yn bresennol oherwydd diffyg lle, ond mae’n rhaid cael ffordd deg o benderfynu pwy sy’n gallu gwylio. Mewn rhai gwledydd mae cefnogwyr wedi gwrthod y cynnig oherwydd y cyfyngiadau, ond nid felly y mae hi ym mhob man. Efallai y bydd angen system lle bydd pobl yn cael mynychu yn eu tro.

Rhaid i gefnogwyr dderbyn nad yw’n debygol y bydd eu seddi arferol ar gael, a bydd angen cynlluniau eistedd newydd er mwyn sicrhau bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol yn y stadiwm ei hun.
Bydd hi’n orfodol i bobl gadw pellter cymdeithasol yn y cynteddau ac yn y mannau eistedd.
Bydd bylchau a gofod rhwng pobl yn y mannau eistedd, ond mae’n bosibl y bydd modd caniatáu “swigod” teuluol o hyd at 6 pherson i eistedd gyda’i gilydd mewn grwpiau.
Dim ond nifer penodol o bobl a fydd yn cael mynediad i’r cynteddau, a’r rhain wedi’u rhannu’n wahanol ardaloedd. Bydd hyn yn bosibl yn Stadiwm Dinas Caerdydd, oherwydd ei chynllun, ond gall fod yn anodd mewn stadiymau eraill.

Cawsom gyfarfod drwy gynhadledd fideo ddydd Mawrth, 4 Awst.

Yn bresennol roedd

Paul Corkrey, Kieran Jones, Vince Alm, Allyson Rees, Tommie Collins FSA Cymru
Lucy Mason, Mark Evans, Ian Gwyn Hughes, Rob Dowling, Wayne Nash Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Adam Gilliatt, (Stiwardio Cymdeithas Bêl-droed Cymru) Wayne Palmer (Heddlu De Cymru), Dave Dulin (Wonky Sheep)Ymddiheuriadau gan Ian Davis, Peter Barnes, Kevin Davies, Colin Lewis, Adam Jones

Trafodwyd yr holl bynciau uchod. Cytunai pawb fod cael cefnogwyr yn ôl mewn stadiymau yn hynod bwysig, ond rhaid gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Oherwydd na fydd modd caniatáu’r un niferoedd, bydd llawer llai o gefnogwyr yn gallu mynd i’r gemau, a hynny hefyd yn effeithio ar y penderfyniad i ganiatáu cefnogwyr oddi cartref, a fyddai’n lleihau nifer y llefydd sydd ar gael i’r cefnogwyr cartref fwy fyth. Mae llawer o bethau i’w hystyried, a llawer o ganllawiau newydd i’w cyflwyno. Fydd pêl-droed ddim fel rydyn ni’n gofio am sbel go lew.
Rhoddodd Lucy ddiweddariad inni hefyd am y sefyllfa aelodaeth, ac mae modd ymuno â’r Wal Goch o hyd yn www.faw.cymru/tickets. Hyd yma mae mymryn dros 10,500 wedi prynu aelodaeth ar gyfer cyfnod 2020-22. Bu oedi anorfod gyda’r pecynnau aelodaeth oherwydd y pandemig, ond mae holl bartneriaid cynhyrchu’r Gymdeithas Bêl-droed bellach yn ôl yn gweithio, a gobeithio y bydd modd anfon y pecynnau cyntaf tua adeg y gemau ym mis Hydref.
Mae gostyngiadau’r Wal Goch ar ap FAW.JD (15%) a gwefan Spirit of 58 (10%) yn dal yn berthnasol, ac mae’r codau a roddwyd y llynedd yn dal yn ddilys. Bydd codau newydd yn cael eu cyflwyno gyda’r pecynnau aelodaeth maes o law.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi bod yn darparu cynnwys arbennig i aelodau’r Wal Goch drwy gylchlythyr y Gymdeithas, sy’n cael ei anfon drwy e-bost. Mae aelodau’r Wal Goch wedi cael blaenoriaeth wrth wylio cyfweliad Ewro 2016 Chris Coleman, ac mae rhagor i ddod yr wythnos hon. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i gyflwyno cynnwys arbennig i’r Wal Goch unwaith y bydd y chwaraewyr yn dychwelyd i hyfforddi gyda’r tîm.
Dywedodd heddlu Cymru y byddan nhw’n gweithio gyda’r Gymdeithas Bêl-droed, y clybiau a grwpiau diogelwch i helpu torfeydd i ddychwelyd i stadiymau. Dywedodd yr heddlu hefyd eu bod yn falch iawn bod cefnogwyr wedi parchu’r alwad i gadw’n glir o’r stadiymau yn ystod y gemau a chwaraewyd y tu ôl i ddrysau caeedig hyd yma.
Daeth y cyfarfod i ben

Nid yw dim o’r uchod yn ddelfrydol i neb, ond dyna’r sefyllfa fel y mae hi ddechrau mis Awst. Gobeithio erbyn y cylchlythyr nesaf y bydd gwell newyddion i gefnogwyr sy’n dymuno gwylio pêl-droed byw.

Related Articles

Cylchlythyr FSA Cymru Ionawr 2020

Blwyddyn newydd dda i’n holl aelodau. Gydag Ewro 2020 ar y gorwel, bydd honno gobeithio’n flwyddyn werth chweil arall.

FSA Cymru update: February 2020

We’re happy to present to FSA Cymru members our first newsletter of 2020.

FSA Cymru update: March 2020

Welcome to the second newsletter of 2020 – which will of course be concentrating on the build up to Euro 2020 but we’ll first be looking at the minutes of our recent meeting with the Welsh FA (FAW).

FSA Cymru update: June 2020

*Our latest newsletter may have mistakenly directed you to our June update – if you want information on August click here*

Funding partners

  • The Football Association
  • Premier Leage Fans Fund

Partners

  • Gamble Aware
  • Co-operatives UK
  • FSE
  • Kick It Out
  • Level Playing Field
  • Living Wage Foundation
  • SD Europe