Basket
×

Your basket

Join The FSA

E-fwletin FSA Cymru #5 (Mehefin 2019)

This is a story from the FSF archive – the FSF and SD merged to become the FSA in 2019.

Croeso i’r pumed rhifyn o’n cylchlythyr. Gobeithio ein bod ni wedi ateb eich holl gwestiynau isod. Os nad hynny, anfonwch e-bost at: [email protected]

Ailfrandio FSF Cymru

Ddydd Iau, 22 Tachwedd 2018, cafodd aelodau o’r Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed a Supporters Direct gyfarfod i gwblhau’r broses o uno’r ddau sefydliad.

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio fel un sefydliad, er bod y gwaith yr oedd yr FSF a’r SD yn ei wneud wedi parhau o dan y brandiau penodol hynny.

Y tu ôl i’r llenni, fodd bynnag, mae staff y ddau sefydliad wedi dechrau cydweithio o dan yr un to. Un Cyngor Cenedlaethol etholedig sy’n ein llywodraethu, a hwnnw’n ei dro yn ethol ein Bwrdd ni.

Dros y chwe mis diwethaf, mae’r Bwrdd wedi bod yn cnoi cil dros enw’r sefydliad newydd. Y penderfyniad oedd Cymdeithas y Cefnogwyr Pêl-droed.

Bydd gan FSA Cymru ei logo unigryw ei hun cyn hir, a byddwn ni’n defnyddio hwnnw yn ein holl gyhoeddiadau yn y dyfodol. (gweler uchod)

Adolygiad Llysgenhadaeth y Cefnogwyr o daith Croatia a Hwngari

Cafwyd dau ganlyniad siomedig tu hwnt ar y cae, a hynny’n golygu ein bod yn wynebu talcen caled i gyrraedd brig y grŵp anodd yma. Ond roedd hon yn daith gofiadwy i’r cefnogwyr, a gafodd fwynhau’r croeso cynnes a’r tywydd cynhesach fyth.

O ran gwaith Llysgenhadaeth y Cefnogwyr, dyma’r prysuraf inni fod erioed, ac o gryn dipyn. Roedd dwy gêm oddi cartref mewn cyfnod mor fyr wastad am wneud pethau’n anodd, ond drwy lwc roedden nhw’n weddol agos at ei gilydd yn ddaearyddol, er bod y ffin y tu allan i ardal Schengen, a bod hynny wedi achosi tipyn o oedi.

Yn Zagreb y dechreuodd gwaith y Llysgenhadaeth, gan fod llawer o gefnogwyr Cymru yn aros yno. Doedd gan y rhan fwyaf ddim tocynnau i’r gêm, ac roedd hi’n brysur iawn wrth i bobl geisio dod o hyd i docynnau.

Welsh fans2Y diwrnod wedyn, fe aethom ni i’r cyfarfod diogelwch yn y stadiwm yn Osijek. Wrth gael ein tywys o gwmpas, roedd pethau wedi gwella ers inni ymweld y tro diwethaf, gyda’r seddi wedi’u trwsio, allanfa newydd wedi’i chreu, toiledau dros dro wedi’u gosod, a stondin luniaeth fechan yn cael ei hadeiladu. Ond roedd cynrychiolwyr UEFA yn dal i gytuno â ni nad oedd safon y stadiwm yn ddigon da, ac nad oedd hi’n addas i’w diben. Ond â ninnau ar drothwy’r gêm, doedd dim amdani ond derbyn y sefyllfa.

Daeth diwrnod y gêm ei hun ac fe gyrhaeddodd cannoedd heb docynnau, neu gyda thocynnau roedden nhw wedi’u cael gan gyfeillion neu drwy ffyrdd eraill. Ni chafodd y cefnogwyr hyn fynd i mewn gan fod enwau pobl eraill ar y tocynnau, er inni rybuddio ynghylch hynny. Cafodd llawer eu gadael y tu allan, rhai ohonyn nhw’n ddig, a rhai yn ein beio ni, yr heddlu neu’r Gymdeithas Bêl-droed. Ond fe aethon nhw i chwilio am y bariau ymhen hir a hwyr. Fe gawson ni adroddiadau am bobl oedd wedi colli bagiau, eiddo, a phasborts, ond yn ffodus fe ddaeth pawb o hyd i’w pethau, ac yn ein blaenau â ni i Budapest.

Roedd tua 2,500 o gefnogwyr Cymru yn Budapest, a drachefn doedd gan y rhan fwyaf ddim tocynnau i’r gêm. Ond roedd hi’n un parti mawr yno, a dim ond ambell ddigwyddiad bach yn tarfu ar bethau. Roedd ardal y “ruin bars” yn gwrthod mynediad i bawb oedd yn gwisgo crys Cymru. 

Unwaith eto, roedd y llinell ffôn yn brysur iawn, gyda chefnogwyr yn gobeithio y gallen ni eu helpu nhw i gael tocynnau. Ond pobl wedi colli pethau oedd y broblem fwyaf cyffredin. Y digwyddiad mwyaf difrifol oedd galwad ffôn gan ddynes yng Nghymru yn dweud bod ei gŵr wedi’i arestio ac a allen ni helpu. Roedd ffrindiau ei gŵr wedi ei ffonio hi i roi gwybod, ond er inni ddefnyddio ein holl gysylltiadau wnaethon ni ddim dod o hyd i’r dyn hwn tan y diwrnod wedyn. Doedd yr heddlu ddim wedi ei arestio, dim ond ei roi mewn cell i gysgu am ei fod yn feddw, cyn ei roi mewn tacsi a’i anfon yn ôl i’w westy. Felly doedd dim llawer i boeni yn ei gylch.   

Roedd hi’n stadiwm fodern, a’r holl gyfleusterau’n wych. Daeth sawl un yno eto gyda’r enw anghywir ar y tocyn, ond roedd pethau’n dawelach o beth tipyn wrth y gatiau, ac roedd stiwardiaid a heddlu Hwngari’n dda.

 Fe gafodd y Gymdeithas Bêl-droed sioc wrth weld cynifer o gefnogwyr a ddaeth i’r gemau gyda thocynnau gan aelodau eraill. Maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n cysylltu â phawb a gafodd eu dal yn ystod y ddwy gêm, ond dydyn nhw heb benderfynu eto beth fydd y gosb. Mae’n deg dweud bod llawer o gefnogwyr yno heb docynnau a hwythau wedi bod yn cydymffurfio â’r cynllun ffyddlondeb – dim ond nad oedden nhw wedi bod i ddigon o gemau i gael tocynnau i’r gemau hyn. Nhw fydd yn fwyaf dig gyda’r arfer hwn o ‘gynaeafu’ tocynnau. Fe all fod goblygiadau i bawb yn gêm Slofacia, gyda’r Gymdeithas Bêl-droed yn trafod sut i ddosbarthu’r tocynnau. Ond er mwyn i’r system weithio’n iawn, mae’n rhaid gwneud rhywbeth.

FC CYMRU sioe gylchgrawn newydd sbon pêl-droed Cymru

FC CymruBu’r hogiau’n ffilmio yn Croatia a Hwngari, gan roi rhywfaint o sylw i waith Llysgenhadaeth y Cefnogwyr a llawer o’r pethau a wnaeth cefnogwyr Cymru yn ystod y daith. Dolen Youtube.

 Cyfarfodydd y dyfodol

Byddwn yn bresennol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol yr FSA ddydd Sadwrn, 29 Mehefin yn y Royal National Hotel yn Llundain.

Rhwng 3 a 7 Gorffennaf byddwn yn mynd i gyfarfod cyffredinol chwemisol Cefnogwyr Pêl-droed Ewrop (FSE) yn Lisbon, Portiwgal. Mae gennym ni sedd ar y bwrdd ar hyn o bryd, a bydd cyfle inni gael ein hail-ethol eleni.

Ar Orffennaf 26, byddwn yn mynd i gyfarfod o’r gwledydd cartref yn Belfast, cyfarfod sy’n cael ei drefnu gan sefydliad cefnogwyr Gogledd Iwerddon, AONISC (uniad o glybiau cefnogwyr Gogledd Iwerddon).

Related Articles

FSA Cymru Cylchlythyr mis Mehefin 2021

Croeso i gylchlythyr FSA Cymru mis Mehefin. Ar ôl bron i ddeunaw mis, rydyn ni’n dal i fyw dan gyfyngiadau pandemig COVID-19, ond diolch i’r drefn mae’r brechlynnau bellach yn gweithio’n dda. Mae miliynau wedi cael un dos, a nifer wedi cael y ddau. Dyma ein llwybr yn ôl i normalrwydd, ac er ei fod yn rhy hwyr i EURO 2020 a Baku a Rhufain, fe all rhai ohonon ni fynd i gêm Albania, o leiaf, er y bydd y niferoedd yn gyfyngedig ac y bydd yn rhaid dilyn protocolau llym, gan gynnwys profion PCR.

FSA 2019-20 Annual Review: download now!

The FSA’s second Annual Review, which will be presented to our AGM on Friday 11th December, is now available to download.

FSA Cymru update: December 2020

Welcome to FSA Cymru’s December 2020 update…

FSA Cymru meet with Welsh football authorities

At the end of January, supporter representatives from FSA Cymru met with the Football Association of Wales (FAW) and senior figures from the Welsh police to discuss issues impacting Wales fans.

Funding partners

  • The Football Association
  • Premier Leage Fans Fund

Partners

  • Gamble Aware
  • Co-operatives UK
  • FSE
  • Kick It Out
  • Level Playing Field
  • Living Wage Foundation
  • Pledgeball
  • SD Europe