Basket
×

Your basket

Join The FSA

© Alamy

FSA Cymru: Cylchlythyr Ionawr 2022

Blwyddyn newydd dda bawb. Os bydd sefyllfa Covid yn caniatáu hynny, fe allwn ni i gyd edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous yn 2022, a honno o bosib yn arwain at rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd.

Cyn belled bod y cymorth ariannol yn dal i fod ar gael, bydd gwasanaeth Llysgenhadaeth y Cefnogwyr yn parhau eleni ac rydyn ni hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o helpu’r cefnogwyr yng ngemau tîm y merched.

Gan fwrw golwg yn ôl dros y flwyddyn a fu, mae’n rhaid dweud iddi fod yn un gymharol lwyddiannus a chyffrous i’r tîm, ond yn un hynod o anodd i’r Wal Goch. Rhaid inni ddechrau gyda’r Ewros. Golygfa drist, ond eto un i’w chroesawu, oedd gweld ychydig gannoedd yn unig o gefnogwyr mentrus Cymru yn llwyddo i gyrraedd Baku, yr Eidal a’r Iseldiroedd, a hynny er gwaetha’r costau, y pellteroedd a chyfyngiadau Covid. Fe gawson nhw’n sicr eu gweld a’u clywed, ac roedd yn braf gweld y tîm yn llwyddo i gamu y tu hwnt i’r gemau grŵp.

Ymlaen wedyn i’r Iseldiroedd ac i Amsterdam, lle daeth cefnogwyr Cymru wyneb yn wyneb â dros 25,000 o gefnogwyr Denmarc. Roedd rheolau Covid y Daniaid yn wahanol i rai’r Deyrnas Unedig. Eto i gyd, roedd hi’n dal i deimlo’n drybeilig o annheg ar ein cefnogwyr ni, na allai deithio draw. Dechreuodd y tîm yn dda ond cafodd Denmarc afael ar y gêm ac ennill yn rhwydd yn y pen draw. Ond dal i ganu wnaeth y fintai fechan o’r Wal Goch a oedd wedi llwyddo i gyrraedd y stadiwm, gan floeddio’n groch tan y chwiban olaf.

Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2020-22
Pan dynnwyd yr enwau o’r het, roedd hi’n amlwg y byddai Gwlad Belg, sydd ar frig rhestr detholion y byd, yn ffefrynnau i ennill y grŵp. Ond roedd Cymru’n hyderus y gallen nhw sicrhau’r ail safle a chyrraedd y gemau ail gyfle. Roedden ni hefyd yn ffodus ein bod ni wedi ennill ein grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd, felly roedd gennyn ni gyfle gwych beth bynnag. Ond cael sicrhau gêm gartref oedd y nod.
Ym mis Medi 2021, cafodd y “Wal Goch” gyfle i deithio drachefn gyda dwy gêm oddi cartref yn syth ar ôl ei gilydd, yng Ngweriniaeth Tsiec ac yna yn Estonia. Roedd modd inni gynnal ein gwasanaeth Llysgenhadaeth unwaith eto. Roedd o hyd rwystrau, wrth reswm, ynghyd â phrotocolau i’w dilyn. Ond cyrhaeddodd 1,400 o gefnogwyr Prague, tra bo dros 1,200 wedi’i gwneud hi i balmentydd oer ond prydferth Tallinn yn Estonia.
Ar ôl perfformiad cryf neilltuol yn Prague, siom oedd y canlyniad cyfartal a ninnau’n haeddu ennill, ond dilynwyd hynny â buddugoliaeth galed rai diwrnodau wedyn yn Estonia. Dyna bedwar pwynt oddi cartref, a’r teithio blinedig yn talu ar ei ganfed i’r cefnogwyr, a oedd yn ddigon diolchgar am y cyfle i fod yno a dim mwy.

Dwy gêm anferth wedyn gartref yng Nghaerdydd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg. Roedd angen pedwar pwynt eto. Daeth torf fawr i’r gêm gyntaf a golygodd y fuddugoliaeth gyfforddus fod noson gofiadwy iawn yn ein haros yn y brifddinas. Drachefn, chwaraeodd y tîm yn benigamp gerbron torf orlawn, gan lwyddo i gyrraedd y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.
Rydyn ni’n gwybod mai ein gwrthwynebwyr fydd Awstria, ac os enillwn ni’r gêm honno, byddwn ni’n chwarae enillydd y gêm rhwng yr Alban a’r Wcrain. Y fantais anferth yw y byddwn ni’n chwarae’r ddwy gêm gartref. Rydyn ni’n credu y bydd dwy gêm yng Nghaerdydd beth bynnag a fydd yn digwydd. Y gyntaf yn erbyn Awstria ar Fawrth 24, ac yna un arall 5 diwrnod wedyn ar 29 Mawrth. Gobeithio’n wir mai gêm ragbrofol derfynol Cwpan y Byd fydd yr ail gêm honno, ac nid gêm ddibwynt. Mae’n debygol y bydd y tocynnau’n mynd ar werth i’r ddwy gêm fis Ionawr, ond oherwydd y rheolau Covid presennol, mae’n bosib y bydd oedi tan fis Chwefror. Gobeithio y bydd y cefnogwyr yn cael mynd i’r stadiwm, ac os hynny, mae’n sicr y bydd pob tocyn yn cael ei werthu.

Cynghrair y Cenhedloedd 2022
Tynnwyd yr enwau o’r het i Gynghrair y Cenhedloedd ar 16 Rhagfyr ym mhencadlys UEFA yn Neon, y Swistir. Roedd Cymru yng ngrŵp A gyda holl brif dimau Ewrop, a’r cefnogwyr yn gobeithio am grŵp o enwau mawr, llawn bri. Nid felly y bu hi, gwaetha’r modd, ond ar ochr arall y geiniog rydyn ni mewn grŵp gyda gemau y gallwn ni’u hennill a gwledydd y bydd hi’n hawdd i’r cefnogwyr eu cyrraedd – drachefn yn dibynnu ar sefyllfa Covid.
Ein gwrthwynebwyr fydd Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, a’r Iseldiroedd

Beth yw’r dyddiadau?
Mehefin 3ydd Gwlad Pwyl oddi cartref
Mehefin 6 Yr Iseldiroedd gartref
Mehefin 10 Gwlad Belg gartref
Mehefin 13 Yr Iseldiroedd oddi cartref

Medi 22 Gwlad Belg oddi cartref
Medi 25 Gwlad Pwyl gartref

Qatar
Os byddwn ni’n cyrraedd Qatar, bydd hi’n siwrnai ddieithr i lawer yn y Wal Goch. Dyma fydd ein blas cyntaf o rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958. Roeddwn i’n ffodus i fod yn rhan o ddirprwyaeth o Gefnogwyr Pêl-droed Ewrop a aeth ar ymweliad i Qatar a gweld 4 gêm yn cael eu chwarae yno mewn gwahanol stadiymau. Teithio yno i wylio Cwpan yr Arabiaid wnaethon ni, gan allu bwrw golwg ar y stiwardio, y drafnidiaeth, y trefniadau diogelwch wrth y gatiau, a’r stadiymau. Fe gyflwynon ni ein canfyddiadau i’r prif bwyllgor sy’n trefnu’r twrnament ac i staff FIFA.
Roedd yn agoriad llygad mawr, ac heb amheuaeth yn antur y bydd sawl cefnogwr o Gymru’n awyddus i’w phrofi. Fydd hyn ddim yn rhad nac yn rhwydd i’r cefnogwyr, ac yn sicr ddigon bydd yn brofiad gwahanol i’r arfer. Mae angen i’r trefnwyr yn Qatar wneud llawer o waith o hyd. Mae’r stadiymau’n rhyfeddol o wych, ond mae angen rhoi sylw i’r trefniadau llety, plismona, stiwardio a thrafnidiaeth. Rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth yn y misoedd sy’n arwain at y twrnament.

Cyfarfod ym mis Ionawr â Noel Mooney, y Prif Weithredwr
Ddydd Gwener 7 Ionawr, cawson ni gyfarfod â nifer o gynrychiolwyr y Gymdeithas Bêl-droed. Yn eu plith roedd y Prif Weithredwr newydd, Noel Mooney, a ddiolchodd i bawb am fod yn bresennol ac esbonio strategaethau ac amcanion y Gymdeithas Bêl-droed at y dyfodol. Roedd y weledigaeth yn un ddiddorol ac fe allwn ni i gyd gyfrannu ati hi.

Dyma rai o’r prif bwyntiau:

Mae grŵp strategol newydd yn y Gymdeithas Bêl-droed wedi’i greu i edrych ar berfformiad lefel uchel ac ar bob elfen o’r gêm, yn unol â’r dogfennau diweddar ar gyfer chwe cholofn strategol y Gymdeithas
Mae’r grŵp technegol cyntaf erioed wedi’i greu i helpu’r Gymdeithas i symud yn ei blaen a dod yn gryfach ar y cae ac oddi arno. Bydd y grŵp hwn yn cynnwys cyn-chwaraewyr a chyn-reolwyr ynghyd â nifer o bobl eraill
Buddsoddiad anferth mewn pêl-droed ar lawr gwlad dros y deg mlynedd nesaf, ac mae ceisiadau eisoes wedi’u gwneud am grantiau gan Lywodraeth Cymru, UEFA a FIFA er mwyn i Gymru geisio dilyn yng nghamau sawl cenedl arall. Nid yw Noel am weld gemau’n cael eu canslo oherwydd nad oes ystafelloedd newid ar wahân i ferched a dynion, neu am nad yw’r caeau chwarae’n ddigon da
Y Gymdeithas Bêl-droed i ymwneud mwy ag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Rhaid i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fod yn rhan hollbwysig o holl glybiau Cymru, ac nid y clybiau proffesiynol yn unig
Bydd gemau rhyngwladol tîm y dynion yn cael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fel dewis cyntaf. Dim ond os nad yw’r Stadiwm honno ar gael yr edrychir ar opsiynau eraill
Ailstrwythuro’r Gymdeithas Bêl-droed cyn hir
Y Gymdeithas Bêl-droed i ddod yn iachach yn fasnachol. Nid yw’n defnyddio digon ar y prif chwaraewyr i farchnata, ac mae rhai o’r chwaraewyr yn awyddus iawn i hyn ddigwydd.
Rhaid i’r citiau replica fod ar gael i ferched a dynion a dylid eu marchnata / eu prisio’n unol â hynny. Lansiwyd cit merched newydd ar gyfer gêm Ffrainc
Bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn gwneud mwy i gysylltu â’r cefnogwyr. Soniodd Noel am deithio i leoliadau ledled Cymru i gyfarfod cefnogwyr. Dywedodd FSA Cymru ei bod yn barod i newid o gael cyfarfodydd chwarterol i rai misol pe bai angen. Rydyn ni hefyd yn gobeithio cyfarfod wyneb yn wyneb cyn hir a mynd i gyfarfodydd y tu allan i Gaerdydd. Bydd grwpiau cefnogwyr eraill, fel Wal-y-Goch a’r Wal Enfys yn cael eu gwahodd i’r cyfarfodydd hyn, ynghyd ag unrhyw aelodau o’r Wal Goch sydd â diddordeb
Gwella’r profiad ar ddiwrnodau gêm i’r cefnogwyr
Prisiau tocynnau yn eitem boblogaidd, gyda llawer o drafod prisiau yn y cyfarfod. Cytunwyd yn unfrydol y dylai’r cyfathrebu fod yn glir am unrhyw gynnydd ym mhrisiau tocynnau’r gemau nesaf. Byddai cynyddu prisiau’r tocynnau ynghyd â chamau eraill yn golygu bod modd i’r arian ychwanegol fynd yn uniongyrchol tuag at ddatblygiad ar lawr gwlad, gan wella’r gêm at y dyfodol. Bydd y Gymdeithas yn cyhoeddi’r manylion llawn maes o law.
Cafwyd llawer o sylwadau am gyfathrebu a chrybwyllwyd Tiny Media a dulliau cyfathrebu eraill
Mae Jason Webber, Swyddog Cydraddoldeb y Gymdeithas, yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar hyn o bryd. Mae gweithdai digwyddiadau a gweithdai PAWB yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn
Tocynnau Cynghrair y Cenhedloedd – crybwyllodd llawer y posibilrwydd o gael tocyn twrnament i’w gwneud yn rhatach i’r cefnogwyr. Bydd y Gymdeithas yn edrych ar hyn
Trafnidiaeth – mae’r Gymdeithas wedi trafod â rhai cynrychiolwyr o’r byd trafnidiaeth yn ddiweddar ac wedi trafod problemau traffig a gwaith ffordd yn ystod gemau diweddar. Mae cynlluniau ar y gweill i gael cyfarfod â chynrychiolwyr y rheilffyrdd, gyda’r bwriad o drafod sut i ddarparu gwasanaethau rheilffordd digonol ar ddiwrnodau gemauGemau oddi cartref – dywedodd Wonky Sheep bod trefnu hediadau yn anodd yn ystod y pandemig, ond mae rhai wedi’u trefnu eisoes ar gyfer holl gemau Cynghrair y Cenhedloedd
Gemau’r merched: Gyda gemau yn erbyn Slofenia, Ffrainc a Kazakhstan i ddod, mae pethau’n edrych yn llewyrchus i’r gêm a’r torfeydd yn cynyddu’n gyson. Cyhoeddodd FSA Cymru ei bod yn edrych ar gynnal Llysgenhadaeth i’r Cefnogwyr yng ngemau’r merched, gyda Kieran Jones yn trefnu hyn.

Mae’n debygol y bydd y cyfarfod nesaf rhwng y Gymdeithas Bêl-droed ac FSA Cymru ddydd Iau 27 Ionawr, pan fyddwn ni’n trafod tocynnau’n fanylach. Byddwn ni hefyd yn trafod aelodaeth, plismona, trafnidiaeth a’r gemau sydd i ddod. Cysylltwch os hoffech chi inni ofyn unrhyw gwestiynau, ychwanegu unrhyw beth at yr agenda, neu i fod yn bresennol fel gwestai. Rydyn ni wastad yn croesawu mwy o leisiau yn y cyfarfodydd hyn.
Cysylltwch â mi, [email protected]

Related Articles

FSA Cymru: Cylchlythyr mis Mawrth 2021

Welcome to FSA Cymru’s first update of 2021 (fersiwn Gymraeg) – which will of course be navigating the upcoming Euros and a potential return for supporters…

FSA Cymru Cylchlythyr mis Mehefin 2021

Croeso i gylchlythyr FSA Cymru mis Mehefin. Ar ôl bron i ddeunaw mis, rydyn ni’n dal i fyw dan gyfyngiadau pandemig COVID-19, ond diolch i’r drefn mae’r brechlynnau bellach yn gweithio’n dda. Mae miliynau wedi cael un dos, a nifer wedi cael y ddau. Dyma ein llwybr yn ôl i normalrwydd, ac er ei fod yn rhy hwyr i EURO 2020 a Baku a Rhufain, fe all rhai ohonon ni fynd i gêm Albania, o leiaf, er y bydd y niferoedd yn gyfyngedig ac y bydd yn rhaid dilyn protocolau llym, gan gynnwys profion PCR.

FSA Cymru update: July 2023 / Cylchlythyr Gorffennaf 2023

The latest FSA Cymru newsletter updates all news from June 2022-July 2023. If you have any further queries please email [email protected]

Cylchlythyr Rhagfyr 2020

Cylchlythyr Rhagfyr 2020

Funding partners

  • The Football Association
  • Premier Leage Fans Fund

Partners

  • Gamble Aware
  • Co-operatives UK
  • FSE
  • Kick It Out
  • Level Playing Field
  • Living Wage Foundation
  • Pledgeball
  • SD Europe