Basket
×

Your basket

Join The FSA

© PA Images

FSA Cymru Cylchlythyr mis Mehefin 2021

Croeso i gylchlythyr FSA Cymru mis Mehefin. Ar ôl bron i ddeunaw mis, rydyn ni’n dal i fyw dan gyfyngiadau pandemig COVID-19, ond diolch i’r drefn mae’r brechlynnau bellach yn gweithio’n dda. Mae miliynau wedi cael un dos, a nifer wedi cael y ddau. Dyma ein llwybr yn ôl i normalrwydd, ac er ei fod yn rhy hwyr i EURO 2020 a Baku a Rhufain, fe all rhai ohonon ni fynd i gêm Albania, o leiaf, er y bydd y niferoedd yn gyfyngedig ac y bydd yn rhaid dilyn protocolau llym, gan gynnwys profion PCR.

Albania Gartref

Cynigiwyd y gêm hon fel digwyddiad prawf ac ar ôl llawer o waith caled a goresgyn nifer o rwystrau, cytunodd yr awdurdodau i ganiatáu torf o 6,500. Roedd yn rhaid i bawb fod yn aelod o’r Wal Goch ac wedi bod â thocyn Twrnament yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf i gael cod mynediad i wneud cais am docyn. Byddai’n rhaid i’r aelodau hefyd gael dau brawf Covid gorfodol cyn y gêm, sef y prawf PCR a’r prawf cyflym, er bod plant sy’n 11 ac iau wedi’u heithrio.

Byddai’r aelodau’n cael un o dri slot amser, sef 3-3.30pm, 3.30-4pm a 4.30pm er mwyn i 2,000 o gefnogwyr fynd i mewn i’r cae ym mhob slot, fel bod llai o gyfle i bobl ymgasglu yn yr un lle. Byddai’r bariau’n cael agor, a byddai hawl i ddod â baneri yn unol â’r canllawiau arferol.

Gyda lwc, bydd y gêm hon yn llwyddiant, ac fe gawn ni dorfeydd mwy yn y stadiymau ar gyfer gemau mis Medi.

Llysgenhadaeth y Cefnogwyr

Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu darparu ein gwasanaeth Llysgenhadaeth i’r cefnogwyr ar yr achlysur hwn, oherwydd yr amgylchiadau unigryw sy’n gysylltiedig â phandemig COVID-19. Dyma’r tro cyntaf ers 2003 inni beidio allu cynnal Llysgenhadaeth. Y neges a gawson ni gan y Swyddfa Gartref, sy’n rhoi cymorth ariannol i Lysgenhadaeth y Cefnogwyr, oedd: 

“Mae’r Llywodraeth wedi newid ei thôn yn glir yn yr wythnos ddiwethaf, gan roi neges gref i bobl beidio â theithio i wledydd sydd ar y rhestr oren oni bai bod hynny’n hanfodol. Gwnaethon ni’r penderfyniad (ar y cyd ag Adrannau eraill) y byddai’n anghyson cefnogi gwasanaeth i gefnogwyr o’r Deyrnas Unedig sydd wedi anwybyddu cyngor teithio y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad.” 

Mae hynny’n ddealladwy, ond rydyn ni’n dal i ddisgwyl y bydd ychydig gannoedd yn teithio i Baku, a llawer mwy, mae’n siŵr, i’r Eidal, er gwaethaf y cyngor, yn enwedig os bydd yr Eidal yn dod yn barth gwyrdd o dan system goleuadau traffig y llywodraeth. 

Byddwn yn cynnal gwasanaeth digidol bychan drwy Twitter, ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar hwnnw. Y ddolen yw @WeAreFSACymru, a byddwn yn gwneud hynny hefyd i gêm yr Eidal, oni bai bod yr Eidal yn troi o fod yn ambr i wyrdd. Bydd Llysgenadaethau Prydain yn Baku a’r Eidal yn rhoi gwasanaeth llawn i helpu’r cefnogwyr sydd yn dewis teithio.

Gemau Cymru eleni

Y tair gêm oddi cartref ym mis Medi a mis Hydref yw’r targedau o hyd, o ran y gobaith o allu teithio oddi cartref i ddilyn Cymru. Bydden ni’n dal i’ch cynghori i beidio â threfnu dim eto, yn enwedig ar ôl y newyddion am yr awyren a gafodd ei herwgipio yn Belarus. Os byddwch chi’n mynd ati i drefnu, gofalwch fod modd ichi ganslo am resymau sy’n ymwneud â Covid, ac wrth gwrs gwnewch yn gwbl saff fod eich yswiriant teithio yn gymwys yng nghyd-destun Covid.

Grwpiau newydd i gefnogwyr Cymru

Ychydig o newyddion da i gloi, sef bod tri grŵp newydd i gefnogwyr wedi’u sefydlu a fydd yn fanteisiol i ddilynwyr pêl-droed Cymru. 

Dyma nhw:

Byddai’n wych pe gallech chi gefnogi ac ymuno â’r grwpiau hyn. Mae’r Wal Goch yn tyfu ac mae croeso i bawb ymuno. Rydyn ni’n gynhwysol ac yn ymfalchïo ein bod yn gryfach gyda’n gilydd. 

Pob lwc i Gymru yn yr Ewros. Mae’r garfan yn edrych yn gryf, gyda chyfuniad o wynebau newydd a hen lawiau. Mae’r grŵp yn un anodd tu hwnt, ond rydyn ni’n gwybod y bydd y bechgyn yn gwneud eu gorau glas.

Funding partners

  • The Football Association
  • Premier League

Partners

  • Co-operatives UK
  • FSE
  • Kick It Out
  • Level Playing Field
  • Living Wage Foundation
  • Pledgeball
Football Supporters' Association
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.