Basket
×

Your basket

Join The FSA

FSA Cymru update: July 2023 / Cylchlythyr Gorffennaf 2023

The latest FSA Cymru newsletter updates all news from June 2022-July 2023. If you have any further queries please email [email protected]

Quicklinks: 

Welcome to our July newsletter 2023, apologies for the gap since the last edition, almost a year ago now. So much has happened since then and we summarise that before looking forward to the future. We concentrate mainly on the national teams, but the FSA is also available to members in relation to any domestic club issues, whether you support a team in either the Welsh or English football pyramids. Membership remains free and the latest FSA news and membership options can be found here: thefsa.org.uk/join

We continue to have an excellent relationship with the FAW and meet at regular intervals to discuss issues that affect Welsh fans who attend men and women’s international football, both home and away. Discussing ticketing, transport, supporter safety and conditions, especially at away venues. Its also an opportunity for other fan groups to engage with the FAW head of departments. We always welcome Red Wall members to attend these meetings.

Croeso i gylchlythyr 2023, ac ymddiheuriadau ei bod hi’n sbel ers y rhifyn diwethaf, a ymddangosodd bron i flwyddyn yn ôl. Mae peth wmbreth wedi digwydd ers hynny, a dyma grynhoi hynny’n gyntaf, cyn troi ein golygon at y dyfodol. Byddwn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar y timau cenedlaethol, ond mae’r Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed (FSA) hefyd ar gael i helpu aelodau gydag unrhyw fater sy’n ymwneud â’r gem glwb ddomestig – boed chi’n cefnogi tîm ym mhyramid Cymru neu Loegr. Mae modd bod yn aelod yn rhad ac am ddim, ac mae’r newyddion diweddaraf a’r opsiynau i ymaelodi â’r FSA i’w gweld fan hyn: thefsa.org.uk/join

Mae gennyn ni berthynas ragorol o hyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a byddwn ni’n cwrdd yn rheolaidd i drafod materion sy’n effeithio ar gefnogwyr Cymru sy’n mynd i gemau pêl-droed rhyngwladol y dynion a’r menywod, gartref ac oddi cartref. Byddwn ni’n trafod y trefniadau gwerthu tocynnau, materion trafnidiaeth, a diogelwch y cefnogwyr, yn enwedig oddi cartref.  Mae’n gyfle hefyd i grwpiau eraill o gefnogwyr drafod â phenaethiaid adrannau’r Gymdeithas Bêl-droed. Mae wastad groeso i aelodau’r Wal Goch ddod i’r cyfarfodydd hyn.

Review of FSA Cymru June 2022-July 2023/ Adolygiad FSA Cymru Mehefin 2022-Gorffennaf 2023

Leading up to the World Cup 2022 in Qatar we had many concerns, especially about the infrastructure, the fact that so many games were being played in such a small place, and what that meant for transport etc, but also about rights of every fan travelling there, especially around issues relating to inclusion and the LGBTQ+ community together with the reports we had read about workers’ rights and work being unfinished there.

All of these concerns probably meant that fans had a better time than they thought they were going to have, most fans were telling us that they were enjoying it there, especially after the first few days when the authorities seemed to relax more and realised that the football fans there had come for a good time and were well behaved. No Welsh fans were arrested, deported, or got into any sort of serious problems, it was very similar with the English and the rest of the visiting fans. The biggest issues were experienced by Welsh fans based in Dubai and the Hayya card problems.

That does not mean to say it was all OK, our own Laura McAllister, the former international footballer who tweeted after the first game: “So, despite fine words from FIFA before the event, Wales rainbow Bucket hats [were] confiscated at the stadium, mine included. I had a conversation about this with stewards – we have video evidence. This World Cup just gets better but we will continue to stand up for our values.”

Laura stated that security personnel at the Wales-USA match had informed her the hat was considered a “banned symbol” something the authorities claimed would not happen. They were allowed in to the two remaining fixtures.

We also lost two Red Wall members during tournament, one of whom was in Qatar, Kevin Davies from west Wales, we did all we could to support Gerallt and his family at that difficult time.

The pre-visits, the sharing of knowledge, the unity of the Fan Embassies and the Fan Embassies being part of the partnership with the authorities and government, really helped make the tournament a success for the Welsh fans, despite the on-field collapse of the team, generally the Welsh fans had a great time.

Wrth i Gwpan y Byd 2022 yn Qatar ddynesu, roedd gennyn ni nifer o bryderon. Roedd y rheini’n ymwneud yn enwedig â’r seilwaith, a’r ffaith bod cynifer o gemau’n cael eu chwarae mewn lle mor fach, a goblygiadau hynny i drafnidiaeth. Ond roedden ni’n pryderu hefyd am hawliau’r holl gefnogwyr oedd yn teithio yno, yn enwedig o ran cynhwysiant a’r gymuned LHDTC+. Roedd yr adroddiadau roedden ni wedi’u darllen am hawliau gweithwyr a’r gwaith oedd heb ei gwblhau hefyd yn ofid.

Mae’n debyg bod yr holl bryderon hyn wedi golygu bod y cefnogwyr wedi mwynhau mwy na’r disgwyl. Dywedodd y rhan fwyaf o’r cefnogwyr wrthyn ni eu bod nhw wedi cael amser da, yn enwedig ar ôl yr ychydig ddiwrnodau cyntaf, pan sylweddolodd yr awdurdodau fod y cefnogwyr pêl-droed wedi dod yno i ymlacio a’u bod nhw’n ymddwyn yn dda. Ni chafodd unrhyw gefnogwyr Cymru eu harestio na’u danfon o’r wlad, na wynebu unrhyw broblemau difrifol. A’r un oedd y sefyllfa gyda chefnogwyr Lloegr a gweddill y cefnogwyr oedd wedi teithio draw. Cefnogwyr Cymru oedd wedi mynd i Dubai a gafodd yr anawsterau mwyaf, yn sgil problemau gyda’r cerdyn Hayya.

Nid yw hynny’n golygu bod popeth wedi bod yn fêl i gyd. Dyma drydariad Laura McAllister, cyn-gapten pêl-droed Cymru, ar ôl y gêm gyntaf: “So, despite fine words from FIFA before the event, Wales rainbow Bucket hats [were] confiscated at the stadium, mine included. “I had a conversation about this with stewards – we have video evidence. 

“This World Cup just gets better but we will continue to stand up for our values. Dywedodd Laura fod y staff diogelwch yn y gêm rhwng Cymru a’r UDA wedi rhoi gwybod iddi bod ei het hi’n “symbol oedd wedi’i wahardd” – rhywbeth yr honnodd yr awdurdodau na fyddai’n digwydd. Fe gawson nhw fynd i mewn i’r ddwy gêm arall.

Fe gollon ni ddau aelod o’r Wal Goch yn ystod y twrnament hefyd. Roedd un o’r rheini, Kevin Davies o’r gorllewin, yn Qatar. Fe wnaethon ni bopeth o fewn ein gallu i fod yn gefn i Gerallt a’i deulu yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.

Roedden ni wedi ymweld â Qatar ymlaen llaw, wedi rhannu gwybodaeth, ac wedi creu undeb â llysgenadaethau eraill y cefnogwyr. Roedd y llysgenadaethau hynny hefyd wedi creu partneriaeth â’r awdurdodau a’r llywodraeth. Fe dalodd hynny ar ei ganfed wrth wneud y twrnament yn llwyddiant i gefnogwyr Cymru. Ac er i bethau ar y cae fynd i’r gwellt, fe gafodd cefnogwyr Cymru amser gwerth chweil.

Back to top…

Euro 2024 and qualifying for Germany / Ewro 2024 a chyrraedd yr Almaen

This year’s Euro qualifying campaign is squashed into five windows of which we have played two, a very successful first saw us pick up four points and then a shock pointless summer window leaving us in trouble, still on four points with just four games to play.

We did run two successful Fan Embassies in Croatia and Turkey during this period and have sent off a detailed report to UEFA about the conditions in Samsun, with regards to the water/snacks running out, dirty slippery toilets with no toilet rolls, but most importantly the long delay in getting medical treatment to our injured fans who had tripped in the stands.

We prepare now for the Autumn games with trips to Latvia and Armenia, which could be a difficult trip for the red wall, plus our last two home games where we expect to see a lot of visiting fans. If all else fails, we still have the chance to qualify through the play-offs next March.

Mae’r ymgyrch i gyrraedd yr Ewros eleni wedi’i chywasgu i bum ffenest, a ninnau wedi chwarae mewn dwy eisoes. Roedd y gyntaf yn llwyddiannus dros ben, wrth i ni gipio pedwar pwynt. Ond yna daeth ffenest haf waglaw i’n siomi’n fawr. Mae’n golygu ein bod ni’n wynebu andros o dalcen caled, yn dal ar bedwar pwynt gyda dim ond pedair gêm yn weddill.

Fe wnaethon ni gynnal dwy lysgenhadaeth lwyddiannus i’r cefnogwyr yn Croatia a Thwrci yn ystod y cyfnod hwn. Ac rydyn ni wedi anfon neges fanwl at UEFA am yr amgylchiadau yn Samsun. Doedd dim dŵr na lluniaeth ar ôl, roedd y toiledau’n fudr ac yn llithrig heb bapur tŷ bach, ac yn fwy na dim, bu oedi hir wrth geisio cael triniaeth feddygol i’n cefnogwyr oedd wedi’u hanafu ar ôl baglu yn yr eisteddle.

Rydyn ni’n paratoi nawr at gemau’r hydref gyda theithiau i Latfia ac Armenia o’n blaenau. Gallai’r rhain fod yn anodd i’r Wal Goch, ac i’w dilyn bydd y ddwy gêm gartref olaf, lle rydyn ni’n disgwyl croesawu llawer o ymwelwyr. Os aiff popeth arall o chwith, mae gennyn ni o hyd gyfle i gyrraedd y rowndiau terfynol drwy’r gemau ail gyfle fis Mawrth nesaf.

Back to top…

Transport issues for members, especially north and west Wales / Problemau teithio i’n haelodau, yn enwedig o’r gogledd a’r gorllewin

Our members are still experiencing a poor service from “transport for Wales” despite our reassurances from meetings with the organisation, at our regular FSA/FAW meetings. Currently the stadium is full but that doesn’t reflect the difficulty experienced by members west of Cardiff and north of Merthyr. When there is a train to north Wales, it’s been leaving too early, not available past Wrexham, been advertised too late and quite expensive.

We will keep meeting with the company to try to get a better service. Wonky Sheep, the official FAW travel partner, has offered to look into providing a coach service, this will need investigation into where the demand is and dependant on its viability.

Mae ein haelodau’n dal i gael gwasanaeth pur wael gan “Trafnidiaeth Cymru”, er gwaethaf eu hymdrechion i’n sicrhau bod popeth am fod yn iawn yn ystod y cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Gymdeithas Bêl-droed a’r FSA.  Ar hyn o bryd, mae’r stadiwm yn llawn dop, ond ar yr un pryd, mae cefnogwyr sy’n byw i’r gorllewin o Gaerdydd ac i’r gogledd o Ferthyr yn wynebu cryn drafferthion. Er bod trên i’r gogledd ar gael, mae hwnnw wedi bod yn gadael yn rhy gynnar, neu ddim yn mynd ymhellach na Wrecsam. Weithiau, fe fydd wedi’i hysbysebu’n rhy hwyr a bydd braidd yn ddrud.

Byddwn ni’n dal i gael cyfarfodydd â’r cwmni i geisio cael gwell gwasanaeth. Mae Wonky Sheep, partner teithio swyddogol y Gymdeithas Bêl-droed, wedi cynnig edrych ar y posibilrwydd o ddarparu bysus. Bydd angen edrych ar ble mae’r galw yn hyn o beth, ac mae’n dibynnu ar ba mor ymarferol fydd hyn.

Back to top…

FIFA rankings / Rhestr detholion FIFA

Our Summer2023 double defeats saw the Men’s national team score a minus 32.9 ranking points and drop 9 places to 35th in the world. They are important because they are  used as part of the calculation, or the entire grounds to seed competitions. Our highest ranking since the inception was 8th and our lowest was 117th our average ranking is 58th we are still above that, but it is worrying seeing us dropping back down. The women’s national team are currently ranked number 30 in the world, our highest ranking ever was 29th so better news here.

Ar ôl colli’r ddwy gêm yn haf 2023, mae hynny’n golygu bod tîm cenedlaethol y dynion wedi colli 32.9 o bwyntiau ar restr y detholion, a ninnau’n syrthio i safle 35 yn y byd. Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae’r rhestr yn cael ei defnyddio fel rhan o’r cyfrifiadau sy’n llwyr gyfrifol am y rhestrau detholion cyn pencampwriaethau. Wythfed ydy’r uchaf erioed y buon ni, a safle 117 ydy’r isaf. Ein safle cyfartalog ydy 58. Er ein bod ni’n uwch na hynny, mae’n bryderus ein bod ni’n disgyn ar hyn o bryd. Mae tîm cenedlaethol y menywod yn safle 30 yn y byd ar hyn o bryd. Safle 29 yw ein safle uchaf erioed, felly mae’r newyddion hwnnw’n well.

Back to top…

Macsen Jones, new fan engagement executive at the FAW / Macsen Jones, swyddog ymgysylltu newydd y cefnogwyr yn y Gymdeithas Bêl-droed

Macsen Jones (@FAWMacsen) is the new Fan Engagement Executive at the FAW. He will work with supporter groups and FSA Cymru to to bridge the relationship between the association and its supporters, encouraging discussions on how we can improve the supporters experience in Wales with regards to supporter initiatives and issues arising in the fan base. Ensuring the fans get the most from the FAW and allowing the unique culture the fans have built to thrive.

He will be more than happy to discuss ways the FAW, and the supporters/clubs can work together to do this, including fan forums, ambassador events hosted in clubhouses across Wales and visiting clubs all around the country to meet members from clubs and communities.

He would like to hear from you if you’d like to discuss anything in particular that is fan related or have any events that you think the FAW should know about. You can contact him by email at [email protected] or [email protected]. Please get in touch!

Macsen Jones (@FAWMacsen) yw swyddog ymgysylltu newydd y cefnogwyr yn y Gymdeithas Bêl-droed. Bydd yn gweithio gyda grwpiau’r cefnogwyr ac FSA Cymru i greu pont rhwng y gymdeithas a’i chefnogwyr. Rhan o’i waith fydd annog trafodaethau am sut y gallwn ni wella profiad y cefnogwyr yng Nghymru, o ran creu cynlluniau i’r cefnogwyr a datrys problemau. Hefyd, bydd yn ceisio sicrhau bod y Gymdeithas Bêl-droed yn gwneud ei gorau dros y cefnogwyr, gan roi rhwydd hynt i’r diwylliant unigryw y mae’r cefnogwyr wedi’i greu ffynnu.

Bydd Macsen yn barod iawn i drafod sut y gall y Gymdeithas Bêl-droed a’r cefnogwyr a’r clybiau gydweithio i gyflawni hyn. Bydd fforymau cefnogwyr, digwyddiadau’r llysgenhadaeth mewn clybiau drwy’r wlad, ac ymweliadau â chlybiau ym mhob cwr o Gymru i gwrdd ag aelodau o glybiau a chymunedau’n ffordd o wneud hyn.

Byddai Macsen wrth ei fodd yn clywed gennych chi os hoffech chi drafod unrhyw beth penodol sy’n ymwneud â’ch profiad fel cefnogwr, neu os bydd gennych chi unrhyw ddigwyddiad y dylai’r Gymdeithas Bêl-droed wybod amdano. Manylion yr e-bost ydy: [email protected] neu [email protected]. Cysylltwch da chi!

Back to top…

Amar Cymru. FSA affiliates at the Armenia game by Jalal Goni / Amar Cymru. Aelodau cyswllt yr FSA yn gêm Armenia, gan Jalal Goni  

Read the full story on the BBC Wales website here.

Twitter @WMenywod

Wales Women: Home and Away / Menywod Cymru: Gartref ac Oddi Cartref

Penny Miles, Wal Goch y Menywod, explains more…

The success of the Lionesses in neighbouring England, and more importantly, the free airing of the Women’s Euro 2022 Championship on national television brought more audiences than ever to women’s national football in the UK. This resonated in the Welsh national context also, whereby live audiences at women’s international games started to grow exponentially. However, this rise was also related to the team’s success in reaching the World Cup playoffs for the first time. The growth trend did pre-date the 2022 Euros, however, the doubling of record crowds post-Euros was notable. Financial accessibility is also an important factor in helping to grow the domestic fan base. The 5,455 fans who attended the Wales v Estonia match in 2021 rose to 12,741 v Slovenia and 15,200 for the World Cup play-off match versus Bosnia and Herzegovina.

Yn sgil llwyddiant y Llewesau yn Lloegr, ac yn bwysicach, y ffaith bod Pencampwriaeth Ewros y Menywod yn 2022 wedi’i dangos yn rhad ac am ddim ar y teledu, mae cynulleidfaoedd mwy nag erioed wedi cael eu cyflwyno i bêl-droed cenedlaethol menywod ym Mhrydain.  Mae hyn yn wir yng Nghymru hefyd, wrth i’r torfeydd byw yng ngemau rhyngwladol y menywod ddechrau tyfu’n aruthrol.  Serch hynny, daeth y cynnydd hwn law yn llaw â llwyddiant y tîm, wrth i’r menywod gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf. Mae’n wir bod y cynnydd hwn wedi dechrau cyn Ewros 2022, ond roedd y ffaith bod y torfeydd wedi dyblu ar ôl yr Ewros yn nodedig. Mae pa mor hygyrch yn ariannol yw’r gemau hefyd yn ffactor pwysig i helpu i gynyddu nifer y cefnogwyr gartref. Cynyddodd y dorf o 5,455 yn gêm Cymru v Estonia yn 2021 i 12,741 yn erbyn Slofenia ac i 15,200 yng ngêm ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Bosnia a Herzegovina.  

In terms of fan engagement, Wal Goch y Menywod action turned to producing song sheets for the home matches to try and get the crowd singing along. Chants were sourced from fans via Twitter pages and fan Facebook groups. The first of these sheets for the Slovenia match were funded by the FSA. Lianne Stone self-funded the second set of sheets for the Bosnia match. The Barry Horns was also present at the matches helping to get some music going. Wal Goch y Menywod also partnered with local communities (Grangetown, Bute town, Swansea) through the Grangetown Pavilion and Ali Abdi to give local girls access to matches and encouragement to come. Wal Goch y Menywod group members funded match tickets for three home matches, two in Cardiff City Stadium (Slovenia, Bosnia) and one in Parc y Scarlets (France), funding 60 tickets across the three matches.

Away fandom has started to rise as a general trend, but away contingents remain intermittent. 120 fans attended the Pinatar Cup match versus Scotland and 50 fans made the trip out to Switzerland for the key play-off match. The latter match was an important milestone in terms of away fan infrastructure as fans were secured an away section. Much thanks go to Lucy Mason for organising this. This very much facilitated a more vocal presence of the fan base in attendance. Songs were sung throughout, and voices were heard.

However, just seven fans made the trip out to Portugal for the most recent away friendly. Reasons for lower participation relate to many away games during the past year (Pinatar became a regular place for Wales women’s matches), but limited information pre-travel for some games can also act as a barrier to greater away fan participation. For those wanting to travel for the first time, a lack of information creates less confidence. We realise that some of this is out of the FAW’s hands as they are also dependent on information exchange with other FAs. A good number of those who do attend away matches, also attend the men’s away matches and are therefore more experienced in negotiating away fandom.

Wal Goch y Menywod is affiliated to the FSA through the FSA Women’s Game Network.

O ran ymwneud â’r cefnogwyr, bu Wal Goch y Menywod wrthi’n creu taflenni caneuon i’r gemau cartref, i geisio annog y dorf i gyd-ganu. Y cefnogwyr eu hunain oedd wedi cyfrannu’r caneuon, drwy Twitter a grwpiau cefnogwyr ar Facebook. Yr FSA wnaeth dalu am y daflen gyntaf o’r rhain, cyn gêm Slofenia. Fe wnaeth Lianne Stone dalu’i hun am yr ail gyfres o daflenni cyn gêm Bosnia. Roedd y Barry Horns hefyd yn y gemau, i roi ychydig o gerddoriaeth. Ffurfiodd Wal Goch y Menywod bartneriaeth hefyd â chymunedau lleol (Grangetown, Butetown, Abertawe) drwy Bafiliwn Grangetown ac Ali Abdi er mwyn annog a galluogi merched lleol i fynd i gemau. Fe wnaeth Wal Goch y Menywod dalu am docynnau i dair gêm gartref, dwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Slofenia, Bosnia) ac un ym Mharc y Scarlets (Ffrainc), gan dalu am 60 o docynnau i’r tair gêm i gyd.

Mae cynnydd hefyd i’w weld yn y nifer sy’n mynd i’r gemau oddi cartref, er bod y niferoedd yn anghyson. Teithiodd 120 o gefnogwyr i gêm Cwpan Pinatar yn erbyn yr Alban, a theithiodd 50 o gefnogwyr i’r Swistir i wylio’r gêm ail gyfle dyngedfennol. Roedd y gêm honno’n garreg filltir bwysig yn hanes dilyn y tîm oddi cartref, gan i’r cefnogwyr gael eu rhoi mewn darn penodol o’r stadiwm ar gyfer y cefnogwyr oddi cartref. Mae angen diolch yn fawr i Lucy Mason am drefnu hyn. Fe wnaeth hyn yn sicr helpu i greu mwy o sŵn ymhlith y cefnogwyr. Canwyd caneuon drwy’r gêm, ac roedd lleisiau i’w clywed. Serch hynny, dim ond 7 o gefnogwyr a deithiodd i’r gêm gyfeillgar oddi cartref fwyaf diweddar ym Mhortiwgal. Mae’r ffaith bod llawer o gemau oddi cartref wedi’u chwarae yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cyfrannu at y niferoedd is (daeth Pinatar yn lleoliad rheolaidd i gemau menywod Cymru), ond hefyd mae prinder gwybodaeth cyn y gemau weithiau’n gallu bod yn rhwystr. I’r rheini sy’n dymuno teithio am y tro cyntaf, mae diffyg gwybodaeth yn arwain at ddiffyg hyder. Rydyn ni’n sylweddoli bod rhywfaint o hyn y tu hwnt i reolaeth y Gymdeithas Bêl-droed, gan ei bod hithau hefyd yn dibynnu ar gyfnewid gwybodaeth â chymdeithasau pêl-droed eraill. Mae nifer go dda o’r rheini sy’n mynd i gemau oddi cartref hefyd yn mynd i wylio gemau oddi cartref y dynion, ac felly’n fwy profiadol wrth deithio i gemau.

Mae Wal Goch y Menywod yn aelod cyswllt o’r FSA drwy rwydwaith y menywod.

Back to top…

Gôl Cymru

Donations are always welcome, please visit. https://www.justgiving.com/gol

It has been a very busy year as always for our Wales Fan Charity Gôl, which helps children’s & young people’s organisations, every time Wales play. Last June they met the Johann Cruyff Foundation, a charity set up by the great man himself 25 years ago. Gôl donated €1000 to the foundation which went towards buying equipment and materials for the centre in Rotterdam. This was just the start of their work and as always, they are indebted to the Red Wall members who continue to contribute so generously but also to individuals who raise money throughout the year, participating in fund raising events.

Lianne Evans was very brave and did a Sky dive in August which boosted the funds Iwan Williams who ran the Bangor Half Marathon and then the amazing Andy Knapp who run from dawn to Dusk around the perimeter of the Cardiff City stadium, over 50 miles, almost two full marathons and over 100 complete laps of the stadium. There have been other individuals who have also been very supportive and it’s important to add the contribution made by Leigh James, the organiser of so many fundraising parties over the years. He has decided to take a well-deserved rest. Massive thanks to Leigh.

Rydyn ni wastad yn croesawu rhoddion. Ewch i: https://www.justgiving.com/gol

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur, fel wastad, i Gôl, elusen cefnogwyr Cymru sy’n helpu mudiadau plant a phobl ifanc bob tro y bydd Cymru’n chwarae. Fis Mehefin diwethaf, fe wnaethon nhw gwrdd â Sefydliad Johann Cruyff, elusen a sefydlwyd gan y seren ei hun 25 mlynedd yn ôl. Rhoddodd Gôl €1000 i’r sefydliad, a ddefnyddiwyd i helpu i brynu cyfarpar a deunyddiau i’r ganolfan yn Rotterdam. Dim ond dechrau’u gwaith oedd hyn. Fel wastad, maen nhw’n ddyledus i aelodau’r Wal Goch am barhau i roi mor hael, ond hefyd i unigolion sy’n codi arian gydol y flwyddyn drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau.

Fe fuodd Lianne Evans yn ddewr tu hwnt wrth neidio o awyren fis Awst, gan roi hwb i’r gronfa. Rhedodd Iwan Williams Hanner Marathon Bangor, tra rhedodd yr anhygoel Andy Knapp o fore gwyn tan nos o amgylch ffin allanol Stadiwm Dinas Caerdydd – dros 50 milltir i gyd, sydd bron yn ddau farathon llawn, ac yn 100 lap o amgylch y stadiwm. Mae unigolion eraill sydd wedi cefnogi’n frwd, ac mae’n bwysig crybwyll cyfraniad Leigh James, trefnydd cynifer o bartïon i godi arian dros y blynyddoedd. Mae Leigh wedi penderfynu cael hoe haeddiannol. Diolch o galon iddo.

They then also donated to good causes in Belgium, Croatia, and Turkey. During the World Cup donations went to causes closer to home. Tim Hartley explained that one of the donations was to Ysgol Plant Y Brics/The Brick Children School in Nepal. It’s an education and skills project sponsored in north Wales, which helps get migrant children into school and women into business. The World Cup host, Qatar, saw itself as a giving rather than a receiving country, so during the tournament the fans helped children’s causes here in Wales and across the world instead.

‘Ysgol Plant y Brics,’ The Brick School, is based in the Kathmandu Valley. Many of the local villages there are almost devoid of working age men as they emigrate to the Middle East in search of an income. With its Nepalese partner organisation Kopila Nepa, Ysgol Plant y Brics works with children who make bricks for a living, getting them into the classroom and giving them a chance to just be kids. The charity was pleased to be able to help the children after we returned from Qatar.

Gol’s most recent donation was before our match against Turkey where we gave £1000 to the Darüşşafaka’s Earthquake Support campaign. The campaign was established specially to support children that were victims of the earthquake who are financially disadvantaged and who had lost their fathers or mothers.

Fe aethon nhw yn eu blaenau wedyn i roi rhoddion i achosion da yng Ngwlad Belg, Croatia a Thwrci. Yn ystod Cwpan y Byd, aeth rhoddion i achosion yn nes adref, ac mae rhai o aelodau’r pwyllgor i’w gweld isod. Esboniodd Tim Hartley fod un o’r rhoddion wedi mynd i Ysgol Plant y Brics yn Nepal. Prosiect addysg a sgiliau sy’n cael ei noddi yn y gogledd yw hwn, yn helpu plant sy’n fudwyr i fynd i’r ysgol ac yn helpu menywod i gamu i fyd busnes. Roedd Qatar, lle cynhaliwyd Cwpan y Byd, yn ei hystyried ei hun yn wlad sy’n rhoi yn hytrach na derbyn, ac felly yn ystod y twrnament, helpodd y cefnogwyr achosion plant yma yng Nghymru ac o amgylch y byd yn lle hynny.

Mae ‘Ysgol Plant y Brics’ wedi’i lleoli yn Nyffryn Kathmandu. Does bron ddim dynion oedran gweithio yn llawer o’r pentrefi lleol, gan eu bod nhw’n mudo i’r Dwyrain Canol i chwilio am waith. Gyda’r sefydliad partner yn Nepal, Kopila Nepa, mae Ysgol Plant y Brics yn gweithio gyda phlant sy’n creu brics fel bywoliaeth, gan eu helpu nhw i fynd i’r ysgol a rhoi cyfle iddyn nhw fyw eu bywydau fel plant. Roedd yr elusen yn falch o allu helpu’r plant ar ôl i ni ddychwelyd o Qatar.

Roedd rhodd fwyaf diweddar Gôl cyn ein gêm yn erbyn Twrci, a ninnau’n rhoi £1000 i ymgyrch Darüşşafaka i helpu ar ôl y daeargryn. Sefydlwyd yr ymgyrch yn unswydd i helpu plant a ddioddefodd yn sgil y daeargryn ac sy’n wynebu anawsterau ariannol ac wedi colli eu tadau neu’u mamau.  

All the clubs across Wales have been very active in their Disabled Supporter Associations (DSA). Swansea and Newport with their end of season presentations, Wrexham with the great news on away travel for their DSA members and Cardiff providing patients at a nearby Neuro Rehabilitation unit to enjoy watching football from the CCS Sensory room, some seeing football for the first time.

At DSA Cymru we have looked at providing away international stadium assessments to CAFÉ and the FSA Cymru. It is worrying that recent trips Turkey, Belgium and Croatia have all been very bad for disabled fans and we are in discussion with Football Supporters Europe on trying to get UEFA to enforce rules that are already there. We are affiliated to the FSA, and we have attended regular meetings with the FAW and FSA Cymru and through this we have been offered free travel for disabled fans in wheelchairs along with their carers, to come to Wales home games at Cardiff City Stadium from north and west Wales. A big thanks to Mark Evans at the FAW for this. If you are interested in this, please get in touch with your club Disabled Supporters Association or Kieran – [email protected]

It’s important to note that there are normally accessibility spaces left at the Cardiff City Stadium for the majority of Wales games, even sold-out matches. Please get in touch with [email protected] if you are eligible for this category of ticket.

Mae’r holl glybiau drwy Gymru wedi bod yn weithgar iawn drwy’u Cymdeithasau Cefnogwyr Anabl. Rhoddodd Abertawe a Chasnewydd gyflwyniadau ar ddiwedd y tymor; cyhoeddodd Wrecsam newyddion gwych am deithio oddi cartref i aelodau’i chymdeithas; a rhoddodd Caerdydd gyfle i gleifion o uned adferiad niwro gyfagos i wylio pêl-droed am y tro cyntaf o ystafell synhwyraidd Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn DSA Cymru rydyn ni wedi ceisio rhoi asesiadau o stadiymau rhyngwladol oddi cartref i CAFÉ ac FSA Cymru, ac mae’n fater o bryder bod y teithiau diweddar i Dwrci, Gwlad Belg a Croatia i gyd wedi bod yn wael iawn i gefnogwyr anabl. Rydyn ni’n cynnal trafodaethau â sefydliad Cefnogwyr Pêl-droed Ewrop i geisio sicrhau bod UEFA yn gorfodi’r rheolau sy’n bodoli’n barod. Rydyn ni’n aelod cyswllt o’r FSA, ac wedi bod i gyfarfodydd rheolaidd gyda’r Gymdeithas Bêl-droed ac FSA Cymru. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cael cynnig trafnidiaeth am ddim o’r gogledd a’r gorllewin i gefnogwyr anabl sydd mewn cadeiriau olwyn, ynghyd â’u gofalwyr, i gemau cartref Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Diolch o galon i Mark Evans yn y Gymdeithas Bêl-droed am hyn. Os oes gennych chi ddiddordeb yn hyn, cysylltwch â Chymdeithas Cefnogwyr Anabl eich clwb neu â Kieran – [email protected]

Mae’n bwysig dweud bod llefydd hygyrch gwag ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd i’r rhan fwyaf o gemau Cymru, hyd yn oed yn ystod gemau lle mae’r holl docynnau eraill wedi’u gwerthu. Cysylltwch â [email protected] os ydych chi’n gymwys i’r categori tocynnau hwn.

Back to top…

UPDATE: FSA Cymru / FAW meeting

Since this Newsletter was produced the FSA Cymru committee and a variety of Red Wall members met up with the FAW. We were asked to attend in order to discuss a review of men’s international ticket prices, what follows is a review of that meeting and a subsequent follow up meeting one week later.

Minutes from that meeting are now available to read and can be downloaded here.

Back to top…

Massive thanks again to Rhys Iorwerth for his excellent translation of this newsletter.

Related Articles

FSA Cymru: Cylchlythyr mis Mawrth 2021

Welcome to FSA Cymru’s first update of 2021 (fersiwn Gymraeg) – which will of course be navigating the upcoming Euros and a potential return for supporters…

FSA Cymru Cylchlythyr mis Mehefin 2021

Croeso i gylchlythyr FSA Cymru mis Mehefin. Ar ôl bron i ddeunaw mis, rydyn ni’n dal i fyw dan gyfyngiadau pandemig COVID-19, ond diolch i’r drefn mae’r brechlynnau bellach yn gweithio’n dda. Mae miliynau wedi cael un dos, a nifer wedi cael y ddau. Dyma ein llwybr yn ôl i normalrwydd, ac er ei fod yn rhy hwyr i EURO 2020 a Baku a Rhufain, fe all rhai ohonon ni fynd i gêm Albania, o leiaf, er y bydd y niferoedd yn gyfyngedig ac y bydd yn rhaid dilyn protocolau llym, gan gynnwys profion PCR.

FSA Cymru: Cylchlythyr Ionawr 2022

Blwyddyn newydd dda bawb. Os bydd sefyllfa Covid yn caniatáu hynny, fe allwn ni i gyd edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous yn 2022, a honno o bosib yn arwain at rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd.

FSA Cymru update: December 2020

Welcome to FSA Cymru’s December 2020 update…

Funding partners

  • The Football Association
  • Premier Leage Fans Fund

Partners

  • Gamble Aware
  • Co-operatives UK
  • FSE
  • Kick It Out
  • Level Playing Field
  • Living Wage Foundation
  • Pledgeball
  • SD Europe